Ciw-restr

Pobun

Llinellau gan Y Cwbl (Cyfanswm: 26)

 
(0, 3) 314 Cyd-ganwn ni o galon
(0, 3) 315 I ddeuddyn mor lân,
(0, 3) 316 Heb bryder na gofalon
(0, 3) 317 I'n cof naci'n cân;
(0, 3) 318 Bydd gymwys i'w diddanu
(0, 3) 319 Ddwyn ffaglau o dân,
(0, 3) 320 A dawnsio a chanu
(0, 3) 321 I ddeuddyn lawen lân.
(0, 3) 322 ~
(0, 3) 323 I bawb rhoed a ofynnai,
(0, 3) 324 Ein dewis bob un,
(0, 3) 325 I fab y fun a fynnai,
(0, 3) 326 A'i mabi bob mun;
(0, 3) 327 Bydd lawen inni blethu
(0, 3) 328 Y blodau a'u gwau
(0, 3) 329 Yn arlant, heb fethu
(0, 3) 330 Diddanu bryd y ddau.
(0, 3) 331 ~
(0, 3) 332 Cyd-ganwn o lawenydd
(0, 3) 333 Un-galon i gyd,
(0, 3) 334 A phawb ag ysgafn hyder,
(0, 3) 335 Di-bryder eu bryd;
(0, 3) 336 Symudwn ni i ganlyn
(0, 3) 337 Y gwŷn yn ein gwaed,
(0, 3) 338 Cawn gofio drwy ein bywyd
(0, 3) 339 Y gwynfyd a gaed.